#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-05-800 Teitl y ddeiseb: Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref Testun y ddeiseb: Yma yng Nghymru, roeddwn i’n falch mai ni oedd y cyntaf i gael Comisiynydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc a Chomisiynydd ar gyfer Pobl Hŷn. Yn anffodus, mae’r Alban wedi achub y blaen arnom i gael Comisiynydd ar gyfer Cyn-filwyr.
|
Y cefndir
Ym mis Mai 2011, cyhoeddwyd Cyfamod y Lluoedd Arfog gan Lywodraeth y DU. Mae’n mynegi’r rhwymedigaeth foesol sydd rhwng y genedl, y Llywodraeth a’r Lluoedd Arfog. Mae dyletswydd statudol ar i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn baratoi Adroddiad Cyfamod y Lluoedd Arfog bob blwyddyn, a’i osod gerbron Senedd y DU.
Cyfarfu Bwrdd Cyfamod y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyram y tro cyntaf ddydd Iau 26 Hydref 2017. Bwriedir i’r Bwrdd gwrdd ddwywaith y flwyddyn gyda’r nod hwn: "drive forward the existing Armed Forces Covenant commitments across all Government departments responsible for delivery".
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisi ar gyfer gweithredu’r Cyfamod mewn meysydd polisi datganoledig megis iechyd a thai, a hynny gyda phartneriaid statudol a phartneriaid yn y trydydd sector.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru
Yn y Rhaglen Lywodraethu Symud Cymru Ymlaen, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i’r canlynol:
§ Darparu cymorth a gwasanaethau’n unol â’n Cyfamod y Lluoedd Arfog.
§ Gweithio gyda phartneriaid allweddol yng Nghymru i hyrwyddo arfer gorau o ran adnabod Cymuned y Lluoedd Arfog, a gwella sut y cyfeirir pobl at wasanaethau a’r niferoedd sy’n manteisio arnynt.
§ Sicrhau bod cyn-aelodau’r lluoedd arfog yn parhau i dderbyn gofal iechyd fel sydd ei angen arnynt a pharhau â gwasanaeth gwerthfawr GIG Cymru ar gyfer cyn-filwyr, sy’n darparu mynediad at driniaethau i gyn-filwyr sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, a rheiny’n driniaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Ar 10 Tachwedd 2017, cyhoeddwyd Cofio ein Lluoedd Arfog - anrhydeddu aberth y gorffennol a chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog gan Lywodraeth Cymru Mae’r datganiad yn amlinellu rhai o’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cymuned y lluoedd arfog.
Yn ei ymateb i’r ddeiseb hon, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi gwaith y Grŵp Arbenigol ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru; nododd i’r grŵp drafod gwerth ychwanegol cael comisiynydd Lluoedd Arfog a soniodd na fyddai yn gwrthod penodi comisiynydd o’r fath. Mae’n nodi y bydd yn trafod y cynnig â Grŵp Arbenigol Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru a hefyd â Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer y Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid.
Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn ddiweddar, cynhaliodd Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid ymchwiliad i effaith Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Cyhoeddwyd ei adroddiad ym mis Tachwedd 2017. Gwnaethpwyd nifer o argymhellion, gan gynnwys:
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried penodi Comisiynydd y Lluoedd Arfog ar gyfer Cymru er mwyn gwella atebolrwydd sefydliadau’r sector cyhoeddus wrth weithredu Cyfamod y Lluoedd Arfog. Dylai’r Comisiynydd gyhoeddi adroddiad blynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar gydymffurfio â’r Cyfamod. Dylai’r adroddiad dynnu sylw at enghreifftiau o arferion gorau yng Nghymru, defnyddio esiamplau rhyngwladol o gymorth i fi lwyr, cyn-filwyr a’u teuluoedd; a gwneud argymhellion at y dyfodol.
Ar 22 Tachwedd 2017, cynhaliwyd dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar gymorth i’r lluoedd arfog.
Wrth ymateb i’r ddadl, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ddod i un o gyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol i drafod yr adroddiad a’i argymhellion.
Rhagor o wybodaeth
Mae Llywodraeth yr Alban wedi penodi Comisiynydd Cyn-filwyr er mwyn darparu:
…impartial advice to the Scottish Government and other public sector organisations in the form of reports and recommendations designed to improve support for the ex-Service community in Scotland and promote veterans as valued and valuable members of our workplaces and communities.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |